Genesis 39

Joseff a gwraig Potiffar

1Cafodd Joseff ei gymryd i lawr i'r Aifft gan yr Ismaeliaid. A dyma un o swyddogion y Pharo, sef Potiffar, capten y gwarchodlu, yn ei brynu e ganddyn nhw. 2Roedd yr Arglwydd yn gofalu am Joseff. Roedd pethau'n mynd yn dda iddo wrth iddo weithio yn nhŷ ei feistr yn yr Aifft. 3Sylwodd ei feistr fod yr Arglwydd yn gofalu am Joseff a bod popeth roedd e'n ei wneud yn llwyddo. 4Felly am fod Joseff yn ei blesio, gwnaeth Potiffar e'n was personol iddo'i hun. Joseff oedd yn rhedeg popeth oedd yn digwydd yn y tŷ, am fod Potiffar wedi rhoi'r cwbl oedd ganddo yn ei ofal. 5Ac o'r diwrnod y cafodd Joseff ei benodi i'r swydd roedd yr Arglwydd yn bendithio tŷ'r Eifftiwr. Roedd yn gwneud hyn er mwyn Joseff. Roedd popeth yn mynd yn dda i Potiffar, yn ei dŷ a'i dir. 6Felly Joseff oedd yn gofalu am bopeth. Doedd Potiffar yn gorfod poeni am ddim byd ond y bwyd roedd yn ei fwyta.

Roedd Joseff yn ddyn ifanc cryf a golygus. 7Roedd gwraig Potiffar yn ffansïo Joseff, ac meddai wrtho, “Tyrd i'r gwely hefo fi.” 8Ond gwrthododd Joseff, a dweud wrthi, “Mae fy meistr yn trystio fi'n llwyr. Mae e wedi rhoi popeth sydd ganddo yn fy ngofal i. 9Does neb yn ei dŷ yn bwysicach na fi. Dydy e'n cadw dim oddi wrtho i ond ti, gan mai ei wraig e wyt ti. Felly sut allwn i feiddio gwneud y fath beth, a phechu yn erbyn Duw?” 10Er ei bod hi'n gofyn yr un peth iddo ddydd ar ôl dydd, doedd Joseff ddim yn fodlon cael rhyw na gwneud dim byd arall gyda hi.

11Ond un diwrnod, pan aeth e i'r tŷ i wneud ei waith, a neb arall yno, 12dyma hi'n gafael yn ei ddillad, a dweud, “Tyrd i'r gwely hefo fi!” Ond dyma Joseff yn gadael ei got allanol yn ei llaw, ac yn rhedeg allan. 13Pan welodd hi ei fod wedi gadael ei got 14dyma hi'n galw ar weision y tŷ a dweud, “Edrychwch, mae fy ngŵr wedi dod â'r Hebrëwr aton ni i'n cam-drin ni. Ceisiodd fy nhreisio i, ond dyma fi'n sgrechian. 15Pan glywodd fi'n gweiddi a sgrechian gadawodd ei got wrth fy ymyl a dianc.” 16Cadwodd y dilledyn wrth ei hymyl nes i Potiffar ddod adre. 17Wedyn dwedodd yr un stori wrtho fe. “Daeth yr Hebrëwr yna ddoist ti ag e yma i mewn ata i a cheisio fy ngham-drin i, 18ond pan ddechreuais i sgrechian, dyma fe'n gadael ei got wrth fy ymyl a dianc.”

19Pan glywodd y meistr ei wraig yn dweud sut oedd Joseff wedi ei thrin hi, roedd e'n gynddeiriog. 20Taflodd Joseff i'r carchar lle roedd carcharorion y brenin yn cael eu cadw, a dyna lle'r arhosodd.

21Ond roedd yr Arglwydd yn gofalu am Joseff yno hefyd, ac yn garedig iawn ato. Gwnaeth i warden y carchar ei hoffi. 22Gwnaeth y warden Joseff yn gyfrifol am y carcharorion eraill. Joseff oedd yn gyfrifol am beth bynnag oedd yn digwydd yno. 23Doedd y warden yn gorfod poeni am ddim byd oedd dan ofal Joseff, am fod yr Arglwydd gydag e. Beth bynnag roedd Joseff yn ei wneud, roedd yr Arglwydd yn ei lwyddo.

Copyright information for CYM